Mae’n amser prysur arnom wrth i’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd agosáu. Dyma ddyddiadau i’ch dyddiadur:
- Dydd Mercher Rhagfyr 13eg 2017
Dyddiad cau ceisiadau tiwtorial un i un gyda Lynne Plowman. Os ydych yn bwriadu cyfansoddi darn i Driawd Piano Galos, dyma gyfle gwych i chi gael help ychwanegol gan Lynne wrth i chi gwblhau eich gwaith.
- Dydd Gwener Rhagfyr 15fed 2017
Dyddiad cau ceisiadau am ddosbarth meistr i ensembles ifanc. Os ydych yn chwarae mewn ensemble bydd y dosbarth meistr hwn gyda Thriawd Galos yn gyfle gwych i chi ac aelodau eraill yr ensemble i dderbyn cyngor a mireinio’ch sgiliau perfformio.
- Wythnos Ionawr 29ain 2018
Bydd Triawd Piano Galos yma yn cynnig dosbarthiadau meistr i ensembles ifanc – dyddiadau a lleoliadau i’w cadarnhau.
- Dydd Mercher Chwefror 14eg 2018
Dyddiad cau cyflwyno cyfansoddiadau i Driawd Piano Galos. Rydym yn hapus i dderbyn sgôr graffig, sgôr llawysgrifen (sgôr llawn a rhannau unigol), neu PDF o sgôr llawn a rhannau unigol.
- Wythnos Mawrth 19eg 2018
Cyfres o weithdai ysgol. Bydd Triawd Piano Galos yn perfformio (a recordio) pob darn rydym wedi eu derbyn – dyddiadau a lleoliadau i’w cadarnhau.
- Dydd Sadwrn Mawrth 24ain
Cyngerdd dathlu Cyfansoddwyr Ifanc Dyfed. Bydd Triawd Piano Galos yn perfformio detholiad o’r darnau a gyfansoddwyd eleni. Cynhelir y cyngerdd am 7.30 y.h. yn Neuadd y Dderwen, Rhosygilwen.
- Dydd Sul Mawrth 25ain
Cyngerdd Terfynol Cerddor Ifanc Dyfed gyda Ioan Evans, Andrea Jones, Heledd Jones, Sara Llewellyn, Rhydian Tiddy a Carys Underwood. Cynhelir y cyngerdd am 3.00 y.p. yn Neuadd y Dderwen, Rhosygilwen..