Cyfranogwyr y gorffennol

Annest Davies

Mae Annest Davies, o Mwnt, Gorllewin Cymru yn delynores  wobrwyedig ac ar hyn o bryd mae’n astudio gyda’r Athro’r Delyn ryngwladol, Ieuan Jones, yng Ngholeg Cerdd Frenhinol Llundain.

Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol y Preseli, dechreuodd Annest ei thaith gerddorol yn 7 oed ar y piano, cyn mynd ymlaen i ddysgu’r delyn yn 10 oed. Yn gyn-ddisgybl y delynores Frenhinol, Claire Jones, mae Annest wedi perfformio mewn lleoliadau disglair yma yn y DU a thramor, naill ai fel aelod o Ensemble Telyn Claire Jones neu fel unawdydd. Ar ddechrau 2022, bu’n rhan o Ensemble a recordiodd eu halbwm cyntaf yn stiwdios byd-enwog Abbey Road.

Mae Annest wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn Eisteddfodau a chystadlaethau, gan gynnwys ennill cystadleuaeth Camac Llundain  yn 2021 a Gwobr Cerddor Ifanc Davison 2021, lle cafodd y fraint, ar ôl cael ei chyflwyno gyda’i gwobr gan y cyfansoddwr John Rutter, o berfformio yng Nghadeirlan Ely, swydd Rhydychen. Yn Ebrill 2022, dilynodd Annest yn ôl troed nifer o gerddorion llwyddiannus, ac erbyn hyn cerddorion proffesiynol, drwy ennill Gwobr Cerddor Ifanc Dyfed. Mae wedi perfformio unigol yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Gŵyl Gerdd Aberystwyth, a Gŵyl Gerdd Abergwaun

Yn ddiweddar, cafodd Annest y fraint o berfformio Symffoni Môr Vaughan Williams, gyda Cherddorfa Symffoni’r Coleg fel y prif delynor. Yn y misoedd nesaf, mae Annest yn edrych ymlaen at fwy o gyngherddau ynghyd â rhai cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.

Gwenllian Hunting Morris

Mae Gwenllian yn ei ail flwyddyn yn astudio Cerdd yng Ngoleg y Brenin, Llundain. Mae’n cael gwersi telyn yn yr RAM gyda Professor Emerita Skaila Kanga. Yn ogystal â’r delyn mae ganddi ddiddordeb mewn arweinio corawl, yn cyfarwyddo’r King’s College Chorus. Yn ddiweddar buodd yn recordio yn Abbey Road Studios fel rhan o Ensemble Claire Jones. Mae Gwenllian yn mwynhau cyfeilio ac roedd wrth ei fodd yn cyfeilio i’w thad mewn cyngerdd Dewi Sant eleni yn Nhŷ’r Siaradwr yn Senedd San Steffan.

Rhydian Tiddy

Mae Rhydian yn byw yn Llandybie a bu’n ddisgybl yn Ysgol Bro Dinefwr yn Llandeilo cyn mynd ymlaen i astudio Lefel A yn Ysgol Gerdd Chethams, Manceinion. Dechreuodd wersi offerynnol gyda Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin pan yn 6 oed, ac yna dechreuodd fynychu Adran Iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru pan yn 13. Mae wedi ennill sawl gwobr mewn Eisteddfodau ac ef oedd Cerddor Ifanc Dyfed 2019. Daeth yn aelod o Gerddorfa Ieuenctid Prydain Fawr pan ond yn 14 (yr aelod ieuengaf ar y pryd) ac aeth ymlaen i fod yn Brif Drombonydd gyda’r gerddorfa. Ym mis Mawrth 2020 cyrhaeddodd Rhydian Ffeinal Categori Pres Cerddor Ifanc y BBC, ac erbyn hyn mae’n fyfyriwr ar ei flwyddyn gyntaf yn yr Academi Cerdd Frenhinol yn Llundain. Ei freuddwyd yw cael gyrfa fel perfformiwr, a’i obaith yn y cyfamser yw mynd ymlaen i astudio ymhellach ar y cyfandir

Anne Denholm

Anne Denholm

Delynorion

Mae Anne yn un o delynorion ifanc blaenllaw Prydain ac yn Delynores Swyddogol i’w H.B. Tywysog Cymru. Wedi ennill Cerddor Ifanc Dyfed fe astudiodd Anne ym Mhrifysgol Caergrawnt a’r Academi Cerddoriaeth Frenhinol. Derbyniodd ei gradd Meistr o’r Academi gyda rhagoriaeth, gan raddio gyda Gwobr y Regency ar gyfer llwyddiant nodedig, ac fel y delynores gyntaf erioed i ennill gwobr hanesyddol Clwb yr Academi. Mae hi wedi ennill nifer o wobrau mewn cystadlaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys ail wobr yng Ngŵyl Telyn Rhyngwladol Cymru 2014, a chyrraedd rownd derfynol y llinynnau yng nghystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC 2010. Mae Anne yn gweithio’n aml ym maes cerddoriaeth clasurol cyfoes ac wedi recordio a pherfformio gweithiau newydd ar gyfer y delyn. Mae hi yn aelod sefydlol o’r pedwarawd cyfoes arbrofol, The Hermes Experiment, a hefyd yn mwynhau gweithio gyda Grŵp Cerddoriaeth Cyfoes Birmingham. Mae Anne yn gweithio’n llawrydd gyda cherddorfeydd a chorau ar draws Prydain. Mae hi hefyd yn Brif Delynores gydag Ensemble Cymru, grŵp sy’n hybu cerddoriaeth siambr ar draws Cymru. Ffoto Julian Dodds.

www.annedenholm.com

Jenny Doyne

Jenny Doyne

Ffliwtydd

Astudiodd Jenny yn Ysgol Gerdd Chethams ac yna yng Ngholeg Brenhinol Cerdd y Gogledd. Wedi graddio yn 2003 symudodd i Lundain, dechreuodd weithio’n broffesiynol, ac astudiodd cwrs ôl-radd yn yr Academi Cerdd Frenhinol. Yno derbyniodd gymhwyster DipRAM am ei datganiad terfynol rhagorol. Mae Jenny wedi ymddangos fel Prif Ffliwtydd Gwadd ac offerynnwr piccolo gyda cherddorfeydd y Philharmonia, Bale Cenedlaethol Lloegr, a’r BBC Concert Orchestra. Yn ogystal, mae’n gweithio’n gyson gyda cherddorfeydd ledled Prydain Fawr. Fel unawdydd ac offerynnwr siambr, mae hi’n perfformio’n gyson ac i gymeradwyiaeth mawr gyda deuawd ffliwt a phiano, triawd ffliwt, fiola a thelyn, a chyfuniadau offerynnol gwahanol gydag Endymion. Mae hyn wedi arwain at ymddangosiadau mewn gwyliau cerdd ledled Prydain Fawr. Mae Jenny hefyd yn arholwr ABRSM, swydd sy’n ei chymryd ar draws Prydain, a hefyd ar draws y byd i wledydd megis Hong Kong, Tsieina a Chyprus.
Ruth Elder

Ruth Elder

Feiolinyddion

Ar ôl graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru aeth Ruth i Lundain i ymuno a’r Southbank Sinfonia, a bu’n flaenwraig ar y gerddorfa mewn cyngherddau yn neuaddau Wigmore a Cadogan, ac yn fwy diweddar yng nghynhyrchiad Michael Longhurst o ‘Amadeus’ yn y Theatr Frenhinol Genedlaethol. Mae Ruth hefyd wedi teithio’r byd gyda’r pedwarawd llinynnol gomedi Graffiti Classics ac mae hi nawr yn rhedeg Grŵp Llinynnol Llundain. Mae’r grŵp yn darparu adrannau a threfniannau llinynnol i fandiau a sesiynau byw. Mae wedi ymddangos yn yr O2 gyda Madness, yn Glastonbury gyda The Lightening Seeds, BBC Late gyda Jools Holland a MUSE, a’r Camden Roundhouse gyda Sister Sledge, Tito Jackson, John Newman, a Philip Bailley (Earth Wind and Fire). Mae Ruth wedi perfformio i’r Frenhines ym Mhalas Buckingham, ac i Frenhinoedd Bahrain a Saudi Arabia.
Jocelyn Freeman

Jocelyn Freeman

Pianyddion

Mae Jocelyn yn bianydd ac arweinydd, a ddechreuodd ei gyrfa fel corydd mewn cadeirlan. Yn 2013 ymddangosodd ei halbwm o gerddoriaeth piano, ac mae hi wedi perfformio’n rhyngwladol fel pianydd ac arweinydd. Mae’r ‘International Piano Magazine’ yn disgrifio ei chrefft ar y piano fel ‘rhagorol’, ‘gwych’, ac ‘un i gadw llygad arni’. Mae Jocelyn wedi perfformio ar bedwar cyfandir, ac mae hi hefyd wedi darlledu ar y radio, gan ymddangos ar deledu ym Mhrydain a’r Almaen. Mae hi wedi perfformio concerti gan Mozart, Beethoven a Liszt.
Tomi Johnson

Tomi Johnson

Trwmpedwr

Aeth Cerddor Ifanc Dyfed 2002, y trympedwr Tomi Johnson, ymlaen i astudio ffiseg yn Rhydychen, a bu yno fel myfyriwr israddedig, doethuriaeth, ac ymchwilydd ôl doethuriaeth. Er ffocysu ar ffiseg ddamcaniaethol, fe wnaeth ei siâr o chwarae ac arbrofi cerddorol yn y brifysgol e.e. chwaraeodd trymped jazz, gan ymweld ag India, Tsieina, a gwyliau Rotterdam a Montreux gyda’r ‘Big Band.   Dechreuodd ymchwilio i’r seiniau od oedd yn dod o ochr arall y gerddorfa, ac fe arweiniodd hyn ef i ddechrau chwarae’r Corn Ffrengig. Gall gadarnhau ei fod yn offeryn mor anodd ei chwarae ac y gallwch ddychmygu, ond hyd heddiw mae’n parhau i jyglo chwarae trymped a’r corn mewn cerddorfeydd. Erbyn hyn mae Tomi’n gweithio fel dadansoddwr meintiol gyda chronfa ‘hedge’ yn Llundain. Mae’n byw yn Rhydychen, ac yn chwarae cerddoriaeth ym mha ddinas y gall.
Claire Jones

Claire Jones

Delynorion

Yn dilyn ei pherfformiad yn y Briodas Frenhinol, mae Claire Jones, oedd yn Delynores Frenhinol, wedi dilyn gyrfa lewyrchus fel unawdydd ac artist sy’n recordio. Erbyn hyn mae’n perfformio’n gyson gyda rhai o brif gerddorfeydd y byd, ac mae wedi rhoi datganiadau mewn lleoliadau megis Neuadd Wigmore (Llundain), Neuadd Cadogan (Llundain), Neuadd y Ddinas (Hong Kong), a’r Ŵyl Telynau Rhyngwladol (Brasil). Mae ei halbymau, ‘Journey’, ‘Girl with the Golden Harp’ a ‘Highgrove Suite’, wedi cyrraedd brig y siartiau clasurol. Yn 2016 derbyniodd Claire Gydymaith Anrhydeddus gan yr Academi Cerdd Frenhinol yn Llundain. Mae hi hefyd yn llysgennad i’r cwmni gemwaith rhyngwladol, Clogau. Ffoto John Oackley
Llywellyn Ifan Jones

Llywellyn Ifan Jones

Delynores

Ers cwblhau ei astudiaethau yn y Mozarteum yn Salzburg, mae gyrfa Llywelyn wedi mynd o nerth i nerth. Mae wedi perfformio mewn dros ddwsin o wledydd, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, Swistir, Awstria, Norwy, Y Ffindir, Sbaen, a Chymru wrth gwrs. Yn 2016 perfformiodd ‘The Rape of Lucretia’ gan Britten fel rhan o Mozartwoche yn Salzburg. Mae ei berfformiadau diweddar yn cynnwys taith o Brydain gyda Russel Watson, ac unawd consierto mewn cyngerdd gyda Gary Griffiths o dan arweinyddiaeth Syr Karl Jenkins yng Nghadeirlan Tŷ Ddewi – fel rhan o Ŵyl Gerdd Aberdaugleddau. Yn Ebrill 2014 cafodd Llywelyn ei dderbyn i fod yn rhan o gynllun ‘Live Music Now’ y diweddar Yehudi Menuhin, ac mae hyn wedi ei gymryd ledled Cymru, i Awstria, a’r Almaen. Daeth i sylw Classic FM, a chafodd glod am ei waith mewn cartrefi preswyl a gofal fel ‘rhywbeth sy’n hyfryd iawn i’w dystio’.

www.welsh-harpist.com

Sarah Lianne Lewis

Sarah Lianne Lewis

Cyfansoddwr

Roedd Sarah yn rhan o raglen Cyfansoddwr Ifanc Dyfed tra’n astudio gradd mewn cerddoriaeth a hanes ym Mhrifysgol Caerdydd. Aeth ymlaen i gwblhau gradd meistr mewn cyfansoddi yng Nghaerdydd, ac mae wedi bod yn gweithio fel cyfansoddwr a chopïwr llawrydd ers 2012. Mae Sarah wedi cyfansoddi gweithiau sydd wedi’u perfformio mewn amryw ŵyl Ewropeaidd, ac ar Radio 3, BBC Radio Cymru, Radio Television Suisse, France Musique a Deutschlandradio Kultur. Yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi teithio i’r Almaen, Yr Iseldiroedd, Ffrainc, Y Swistir, Gwlad Belg, Y Ffindir a Canada ar gyfer perfformiadau o’u darnau. Mae hi hefyd wedi gweithio gyda cherddorion megis Cerddorfa Gymreig y BBC, y soprano Sarah Maria Sun, y pedwarawd llinynnol Quatuor Bozzini o Ganada, Orchestre Symphonique Ose!, ac Orchestre Philharmonique de Radio France.

www.sarahliannelewis.com

Endaf Morgan

Endaf Morgan

Piano a Tiwba

Bu Endaf yn rhan o Gerddor Ifanc Dyfed nifer o weithiau, gan gyrraedd y rownd derfynol ar y tiwba a’r piano. Bu hefyd yn cystadlu yn rheolaidd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, a llwyddodd i gael ei ddewis i berfformio am yr ysgoloriaeth rhuban glas sawl tro. Daeth ei uchafbwynt cerddorol yn 2010, pan berfformiodd concerto i’r piano yn A leiaf gan Grieg gyda Cherddorfa’r Tair Sir, dan arweinyddiaeth Emyr Wynne Jones. Mae’n chwarae’r piano yn rheolaidd o hyd, ac yn derbyn gwersi oddi wrth y pianydd Iwan Llewellyn Jones. Tu allan i gerddoriaeth, graddiodd Endaf o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn meddygaeth yn 2012. Gweithiodd fel meddyg ifanc yn Ne Cymru am ddwy flynedd cyn gweithio tramor yng Nghanol America fel meddyg alldaith. Mae e nawr yn hyfforddi i fod yn Anesthetydd yn Lerpwl. Mae Endaf hefyd yn hoffi rhedeg a seiclo, ac mae wedi rhedeg marathon Berlin a Stockholm.
Paul Rowland

Paul Rowland

Trombonydd

Roedd y trombonydd Paul Rowland yn rhan o raglen Cerddor Ifanc Dyfed dwywaith yn y 90au hwyr, a chyrhaeddodd y rownd derfynol unwaith. Ar y pryd roedd yn aelod o Gerddorfa Ieuenctid y Tair Sir, ac aeth ymlaen i fod yn brif drombonydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn ystod cyfnod o dair blynedd fel aelod. Wedi gadael ysgol astudiodd hanes ym Mhrifysgol Warwick, cyn symud i Gaerdydd i wneud cwrs ôl-radd mewn newyddiaduraeth. Ymunodd a’r Western Mail yn 2005 fel gohebydd dan hyfforddiant, a deuddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae Paul gyda ‘Media Wales’ o hyd. Ym mis Mai 2016 cafodd ei benodi fel prif olygydd ‘Media Wales’, gyda chyfrifoldeb am yr holl deitlau digidol a phrint – rôl mae’n cyflawni ochr yn ochr â’i gyfrifoldeb fel golygydd ‘WalesOnline’.
Aelfwyn Shipton

Aelfwyn Shipton

Feiolinydd a chyfansoddwr

Mae Aelfwyn yn feiolinydd a chyfansoddwr rhyngwladol ar ei liwt ei hun, ac yn berfformiwr unigryw sydd ar genhadaeth i archwilio’r iaith gerddorol drwy ei hofferynnau a’r llais. O fod yn offerynnwr sesiwn i feiolin awyrol mae Aelfwyn yn byw ac yn anadlu cerddoriaeth. Mae wrth ei bodd yn gweithio gydag artistiaid o wahanol rannau o’r byd, megis Arbor Circus, Inverted Dance Company, a’r cerddorion, Muse, Eska ac Antonio Forcione. Yn ddiweddar mae’n arbrofi gyda ‘loop pedal’ er mwyn archwilio ffyrdd creadigol o fewn cerddoriaeth electronig. Mae hi wedi perfformio mewn lleoliadaua digwyddiadau megis yr O2 a Glastonbury. Aelfwyn greodd yr act feiolin pêl ddrych, Mirabelle – cyfuniad o LED a feiolin awyrol.
Rhys Taylor

Rhys Taylor

Clarinetydd a Chyfansoddwr

Graddiodd Rhys o Goleg Cerdd Frenhinol y Gogledd, yn 2005 gyda Gradd Dosbarth Cyntaf. Y Clarinét yw ei brif offeryn, ond eclectig yw ei yrfa gerddorol gan weithio fel aml chwythbrennwr mewn sioeau cerdd ar draws y byd, cyfarwyddwr cerdd ar gyfer cyngherddau, gwaith stiwdio a theledu, a gwaith ecstra gyda cherddorfeydd proffesiynol megis Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Opera Genedlaethol Cymru, a Cherddorfa Symffoni’r BBC. Mae galw cyson am Rhys fel cyfansoddwr a threfnwr cerddoriaeth ac mae wedi gweithio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, a Theatre Royal Drury Lane Llundain. Mae Rhys hefyd yn cyfansoddi a threfnu cerddoriaeth ar gyfer ei fand jazz ‘RT Dixieband’, a’i driawd clarinét, piano a sielo, ‘Canola’.
Katie Thomas

Katie Thomas

Canwr a Chyfansoddwr

Astudiodd Katie radd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd cyn mynd ymlaen i wneud cwrs ôl-radd mewn arwain corau yn yr Academi Cerdd Frenhinol yn Llundain. Ar hyn o bryd mae’n ymgynghorydd i Gorws Symffonig y BBC, Y Coleg Brenhinol Cerdd, a Chorau Ieuenctid Prydain Fawr. Mae’n beirniadu gwyliau corawl ledled y byd i INTERKULTUR, ac mae’n diwtor techneg gyda Chymdeithas Arweinwyr Corawl Prydain. Fel cantores broffesiynol mae Katie wedi perfformio’n rhyngwladol gyda chorau megis ‘The Monteverdi Choir’ (hefyd fel cynorthwyydd ymarferion i Sir John Eliot Gardiner), ‘Polyphony, ‘Academy of Ancient Music’ a ‘Tenebrae’ mewn lleoliadau megis Neuadd Wigmore Llundain, y Musikverein yn Fiena, a Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd. Ar hyn o bryd mae’n ffocysu ei hymdrechion creadigol fel Cyfarwyddwr Artistig ac Arweinydd ‘The Constellation Club’, cor a cherddorfa broffesiynol a sefydlwyd ganddi.

www.KatieThomasConductor.com

Jack Westmore

Jack Westmore

Cyfansoddwr

Roedd Cyfansoddwr Ifanc Dyfed, a’r cyfle rhoddodd i Jack gael ei gerddoriaeth wedi ei berfformio, yn hwb enfawr iddo fel cerddor a chyfansoddwr ifanc. Fe helpodd hyn iddi benderfynu astudio cerddoriaeth yn y Brifysgol, ac aeth ymlaen i gwblhau gradd meistr mewn cynhyrchu traciau sain. Mae ei yrfa ers graddio wedi bod yn un amrywiol, yn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilmiau byr annibynnol, cerddoriaeth i’w ddarlledu ar y BBC ac S4C, yn ogystal â fideos YouTube sydd wedi cael dros filiwn yn eu gwylio. Ar hyn o bryd mae’n byw yng Nghaerdydd, ac yn gweithio yn y maes marchnata a chyfathrebu. Er bod ganddo swydd fwy corfforaethol erbyn hyn, mae’n cydnabod bod y sgiliau a’r profiadau gafodd drwy CID wedi helpu iddo gyrraedd lle mae heddiw.

jackwestmore.co.uk

Matthew Williams

Matthew Williams

Trwmpedwr

Wedi astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, graddiodd Matthew o’r Academi Cerdd Frenhinol yn Llundain gyda gradd meistr. Bu yn brif drympedwr gyda Cherddorfa Chwyth y Gymuned Ewropeaidd a Band Cory, a derbyniodd wobr ‘Candide’ Academi Pres Cerddorfa Symffoni Llundain yn 2012. Erbyn hyn, mae wedi chwarae gyda nifer o brif gerddorfeydd Prydain Fawr, gan gynnwys yr LPO, RLPO, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Philharmonia, RSNO, a Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, i enwi ond ychydig. Mae Matt wedi perfformio ar daith Elvis Presley, taith Prydain Fawr o sioeau Harry Potter a Chitty Chitty Bang Bang, ac yn y band i Wicked yn y ‘West End’. Mae i’w glywed yn chwarae ar Doctor Who, Our Girl a Cirque de Soleil. Mae Matt hefyd wedi perfformio gyda Elton John, Kerry Ellis, The Pet Shop Boys, Only Men Aloud, Bryn Terfel a llawer mwy.
Emily Wright

Emily Wright

Cyfansoddwr

Ar ôl cwblhau gradd mewn cyfansoddi yn y Birmingham Conservatoire yn 2015, aeth Emily ati i gyd-sefydlu cwmni cynhyrchu ffilmiau, Trapeze Film. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn gweithio gyda cherddorion a chyfansoddwyr, ac maent hefyd yn cynhyrchu fideos artistig eu hunain. Un o amcanion Trapeze Film yw cyflwyno cerddoriaeth glasurol a chyfoes i gynulleidfa newydd, a’i wneud yn fwy cyraeddadwy drwy gyfrwng fideos ar YouTube. Mae Emily wedi gweithio ar brosiectau sy’n amrywio o ffilmio bandiau, i greu ffilm ar farddoniaeth am gylchffordd Coventry dan nawdd Cyngor y Celfyddydau, ac i animeiddio ‘jellybeans’ i hybu albwm newydd o gerddoriaeth glasurol. I weld fideos, ac i wybod mwy am waith y cwmni ewch i’r wefan www.trapezefilm.com.