Mae Cerddorion Ifanc Dyfed yn elusen sy’n ymroi i ddatblygu sgiliau cerddorol ieuenctid siroedd Caerfyrddin Ceredigion a Phenfro

Mae ein gweithgareddau craidd yn cefnogi ac yn ymestyn gwaith ysgolion, gwasanaethau cerdd ac athrawon cerdd. Ein nod yn syml yw annog ieuenctid i greu cerddoriaeth – drwy berfformio, cyfansoddi, neu’r ddau. Mae yna sawl elfen i’n rhaglen flynyddol, ac mae pob un ohonynt yn rhad ac am ddim.

Dosbarthiadau Meistr Cerddorion Ifanc Dyfed

Yn agored i offerynwyr ifanc, cynigir dosbarthiadau meistr unigol gyda dau gerddor proffesiynol o fri. Rhoddir cymorth ac arweiniad proffesiynol mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol.

Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Dyfed

Yn dilyn rhagbrofion, mae’r rhai a ddewisir ar gyfer y ffeinal yn perfformio datganiad 15-munud o flaen cynulleidfa a phanel o gerddorion proffesiynol i ennill gwobr Cerddor Ifanc Dyfed. Mae’r buddugol, yn ogystal ag ennill arian a thlws, yn cael cyfleoedd i roi datganiad mewn gwyliau cerdd leol, ac mae pawb yn y rownd derfynol yn derbyn cyfleoedd perfformio pellach drwy ein partneriaeth gyda chymdeithasau cerdd.

Dosbarthiadau Meistr Cantorion Ifanc Dyfed

Dan arweiniad canwr neu hyfforddwr lleisiol proffesiynol a gyda chyfeilydd proffesiynol ar gael, cynigir dosbarthiadau meistr unigol lle rhoddir cymorth ac arweiniad proffesiynol mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol.

Cyfansoddwyr Ifanc Dyfed

Dros gyfnod o wyth mis, rydym yn cyflogi cyfansoddwr preswyl ac ensemble o offerynwyr o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Gyda’i gilydd maent yn arwain cyfres o gyflwyniadau, gweithdai, sesiynau tiwtorial a pherfformiadau gyda’r nod o annog ieuenctid i archwilio sgiliau cyfansoddi. Mae pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn recordiad proffesiynol o’i cyfansoddiad, a dewisir rhai darnau i’w cynnwys mewn cyngerdd cyhoeddus.

Bwrsari Cerdd Rhosygilwen

Mae cyfranogwyr mewn un neu fwy o’r uchod yn gymwys i wneud cais am Fwrsari Cerdd Rhosygilwen. Mae’r bwrsari, sydd werth £6,000 dros ddwy flynedd, yn rhoddedig gan Fenter Rhosygilwen, ac mae ar gael i gefnogi cerddor ifanc uchelgeisiol sydd am fynd ymlaen i astudio cerddoriaeth mewn prifysgol neu goleg cerdd.

 

POLISI CYDRADDOLDEB