
Mae Cerddorion Ifanc Dyfed yn gystadleuaeth sy’n agored i offerynwyr o safon sy’n gyfatebol i Radd 5 neu uwch. Mae’n agored i ieuenctid sy’n derbyn eu haddysg llawn amser o fewn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro, neu sydd â chyfeiriad preswyl o fewn y siroedd hyn.
DYDDIAD ROWND TERFYNOL CERDDOR IFANC DYFED YW DYDD SADWRN EBRILL 6ed AM 7.30
Dosbarthiadau Meistr Rhad ac am Ddim
Mae pawb sy’n cymryd rhan yn cael cynnig dosbarth meistr rhad ac am ddim gyda cherddorion proffesiynol sefydledig. Dyma ffordd wych o ddysgu, o gael ysbrydoliaeth i ddatblygu, ac o dderbyn gwybodaeth gallwch ei gymhwyso i agweddau eraill o’ch chwarae.
Yn dilyn y dosbarthiadau meistr, mae pum cerddor ifanc yn cael gwahoddiad i baratoi datganiad cyhoeddus fydd yn arwain at wobrwyo Cerddor Ifanc Dyfed. Bydd y pump hefyd yn cael cyfleoedd pellach i berfformio, mewn cydweithrediad a gwyliau a chymdeithasau cerdd yn yr ardal.
Eleni, cynhelir y dosbarthiadau meistr ar y Sadwrn a’r Sul, Hydref 27ain a’r 28ain yn Neuadd y Dderwen, Rhosygilwen ger Cilgerran. Byddant o dan arweinyddiaeth Kevin Price, Pennaeth Pres ac Offer Taro Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a’r pianydd a’r cyfansoddwr Andrew Wilson-Dickson. Mae gan y ddau brofiad helaeth o weithio gyda ieuenctid, ac mae’r ddau hefyd yn gyfathrebwyr rhagorol.
Mae’r awyrgylch yn anffurfiol a chyfeillgar. Ni fydd Andrew a Kevin yn cynnig cymorth technegol (gwaith eich athro yw hynny), ond yn hytrach byddant yn eich annog i archwilio’ch dehongliad o’r gerddoriaeth, ac yn datblygu eich sgiliau fel perfformiwr. Y nod yw codi lefel eich hyder – fel perfformiwr mewn cyngerdd, gwasanaeth neu arholiad.