
Ensembles Ifanc Dyfed
Mae Ensembles Ifanc Dyfed yn fenter gyffrous sy’n agored i offerynwyr neu gantorion ifanc sy’n perfformio fel aelod o ensemble.
Mae Cerddorion Ifanc Dyfed yn cynnig dosbarthiadau meistr unigol yn RHAD AC AM DDIM yn ystod wythnos Chwefror 24ain 2020. Cynhelir y dosbarthiadau mewn lleoliadau ysgolion ledled siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro, a’r nod yw cynnig cyngor ac arweiniad ar agweddau megis:
- gwrando, edrych a rhyngweithio
- dehongliad cerddorol
- cydbwysedd
- brawddegu, chwarae glân, a deinameg
- tiwnio a thonyddiaeth
- technegau perfformio a llwyfannu
Gallwch ymlacio mewn amgylchedd anffurfiol. Efallai y cewch beth cyngor technegol, ond yn bennaf bydd y cerddor/cerddorion fydd yn arwain yn eich annog i archwilio eich dehongliad o’r gerddoriaeth a datblygu eich sgiliau ensemble a pherfformio. Y nod yw datblygu eich hyder pan fyddwch yn perfformio – mewn cyngerdd, gwasanaeth ysgol, neu arholiad.
Dylai eich ensemble baratoi un darn hyd at 5 munud.
Os byddwch yn perfformio o sgôr ysgrifenedig byddai’n werthfawr gael copi ar y dydd.
Diffiniad o Ensemble
Rydym yn diffinio ensemble fel grŵp sy’n cynnwys dau neu fwy o offerynwyr/cantorion, ond nid yw unawdydd gyda chyfeiliant yn cyfri.
Pwy all gymryd rhan?
Mae’r dosbarthiadau meistr yn agored i ensembles ifanc sydd:
- o dan 19 oed ar Fedi 1af 2020
- yn byw, neu’n derbyn eu haddysg llawn amser o fewn ffiniau siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro.
Gall yr ensemble berfformio mewn unrhyw arddull e.e. clasurol, jazz, gwerin, blws, roc, pop, cerddoriaeth byd.
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais ac e-bostiwch at Helen McNabb ymmdyfed@gmail.com, neu postiwch i’r cyfeiriad a nodir. Os oes gennych gwestiwn, cysylltwch â Helen.
Y dyddiad cau am geisiadau yw Dydd Gwener Rhagfyr 13fed 2019