
Cyfansoddwr Ifanc Dyfed
Roedd cyngerdd y cyfansoddwyr ifanc yn cynnwys 12 allan o’r 42 o gyfansoddiadau a dderbyniwyd eleni. Roedd y darnau’n cael eu perfformio gan Bumawd Chwyth o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Ein cyfansoddwr preswyl ar gyfer 2021-22 fydd Lynne Plowman a’r ensemble preswyl bydd pumawd chwyth o blith aelodau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (https://www.bbc.co.uk/bbcnow). Rydym yn falch iawn o gael sefydlu perthynas newydd gyda’r BBC.
Pleser yw cyhoeddi bod rhaglen Cyfansoddwr Ifanc Dyfed yn ôl ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-22. Pleser hefyd yw cyhoeddi ein bod, dros y deuddeg mis diwethaf, wedi sefydlu partneriaeth newydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac y byddant yn darparu ein hensemble preswyl. Pumawd chwyth fydd yr ensemble preswyl eleni, ac fe fydd ieuenctid y tair sir yn cael cyfle i gyfansoddi darn i’w berfformio gan y pumawd, neu unrhyw gyfuniad o offerynnau o fewn y pumawd. Dyma amlinelliad bras o raglen Tymor yr Hydref sy’n cymryd i ystyriaeth y sefyllfa gyfredol gyda COVID-19.
- Ar ddechrau’r tymor bydd pob ysgol/coleg yn cael mynediad i gyflwyniad digidol i’w wylio yn ystod pythefnos cyntaf Tymor yr Hydref. Bydd yn cynnwys cyflwyniad byr gan bob offerynnwr, perfformiad o bumawd chwyth gan ein cyfansoddwr preswyl Lynne Plowman, a darn newydd gan Sarah Lianne Lewis, un a fu’n rhan o raglen Cyfansoddwr Ifanc Dyfed ac sydd yn awr yn gweithio fel cyfansoddwr gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn dilyn y cyflwyniad, bydd crynodeb o’r holl wybodaeth ar gael ar ein gwefan.
- Bydd Lynne Plowman yn cysylltu â bob ysgol ar ddechrau Tymor yr Hydref i drefnu cyfarfod Zoom gyda’r athrawon a’r disgyblion hynny sydd am gymryd rhan – cyfarfod i’w gynnal cyn diwedd mis Medi. Fe fydd yn sesiwn rhyngweithiol, a bydd Lynne yn cyflwyno syniadau pellach, yn chwarae cerddoriaeth ychwanegol, ac yn ateb unrhyw gwestiynau. Bydd y sesiwn hwn yn ffocysu ar ddisgyblion sydd wedi ymrwymo i ddilyn y broses o’r dechrau i’r diwedd.
- Bydd Lynne hefyd yn trefnu ail ymweliad yn ystod misoedd Hydref/Tachwedd. Gall hyn eto gael ei wneud ar Zoom, neu drwy ymweliad a’r ysgol/coleg. Bydd hyn yn fater i ysgolion benderfynu’n unigol gyda Lynne.
Ar ddechrau Rhagfyr byddwn yn cyfarfod gyda’r BBC i adolygu gwaith y tymor, ac i gynllunio darpariaeth elfennau Tymor y Gwanwyn o’r rhaglen – sef sesiynau tiwtorial un-i-un gyda Lynne, perfformio a recordio bob cyfansoddiad ddaeth i law, a’r cyngerdd dathlu i gloi
I wneud cais, lawr lwythych y ffurflen gais isod a’i ddychwelyd drwy’r post neu e-bost at ymmdyfed@gmail.com
Y dyddiad cau yw Dydd Gwener Rhagfyr 10eg 2021.
Y dyddiad cau ar gyfer cyfansoddiadau fydd Dydd Mercher Chwefror 16eg 2022
Dyddiad cau cyflwyno’r cyfansoddiadau
Gall y cyfansoddiadau gael eu cyflwyno mewn sawl ffurf. Ceir manylion am hyn ar dudalen Adnoddau ein gwefan.
Y fformat gorau yw un o’r canlynol
1) Ffeil Sibelius gyda sgôr llawn a rhannau unigol i bob offeryn
2) PDF o’r ffeil gyda sgôr llawn a rhannau unigol i bob offeryn
3) Copi caled o’r sgôr llawn a rhannau unigol i bob offeryn
Dylid danfon y cyfan gydag enw’r cyfansoddwr a’r ffurflen berthnasol sydd ar ein gwefan drwy’r post neu e-bost at Helen McNabb.
Y dyddiad cau yw Dydd Mercher Chwefror 16eg 2022.