Llongyfarchiadau i’r chwech o ddewiswyd i berfformio yng nghyngerdd terfynol Cerddor Ifanc Dyfed yn Neuadd y Dderwen, Rhosygilwen ar Ddydd Sul Mawrth 25ain am 3.00 y.p.
Y chwech a ddewiswyd yn dilyn penwythnos o ddosbarthiadau meistr ar Dachwedd 4ydd a’r 5ed yw:
- Ioan Evans – telyn
- Andrea Jones – piano
- Heledd Jones – sielo
- Sara Llewellyn – offer taro
- Rhydian Tiddy – trombôn
- Carys Underwood – offer taro