Mae eleni’n addo bod mor llawn a chyffrous ag erioed, felly dyma’r dyddiadau pwysig. Ceir manylion mwy manwl a ffurflenni cais ar y wefan.
Cyfansoddwyr Ifanc – Bydd y cyfansoddwr Lynne Plowman a’r Ensemble Preswyl eleni – The Hermes Experiment – yn rhoi tri chyflwyniad yn ystod wythnos Medi 17-21 2018.
Cynhelir sesiynau tiwtorial un-i-un yn ystod Ionawr a Chwefror 2019.
Y dyddiad cau i gyflwyno cyfansoddiadau yw Chwefror 20 2019.
Bydd pob cyfansoddiad a dderbyniwyd yn cael ei berfformio yn ystod wythnos Ebrill 2 2019, a bydd y cyngerdd dathlu terfynol ar benwythnos Ebrill 6 a 7 2019 yn Rhosygilwen.
Dosbarthiadau Meistr Cerddorion Ifanc – cynhelir y dosbarthiadau ar Hydref 27 a 28 2018 yn Rhosygilwen, a’r dyddiad cau i ymgeiswyr fydd Hydref 17 2018.
Dosbarthiadau Meistr Ensembles – cynhelir y dosbarthiadau yn ystod wythnos Ionawr 28 2019, a’r dyddiad cau i ymgeiswyr fydd Rhagfyr 14 2018.