DOSBARTHIADAU MEISTR I OFFERYNWYR
Bydd dosbarthiadau meistr 2022-23 yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn a dydd Sul 6 Tachwedd 2022 yn Rhosygilwen ger Cilgerran. Byddant yn cael eu harwain gan Kevin Price, Andrew Wilson-Dickson, Zoe Smith a Nancy Johnson.
Eleni rydym yn canolbwyntio arbenigedd ein harweinwyr dosbarth meistr trwy gael Nancy Johnson ac Andrew Wilson Dickson i ganolbwyntio’n bennaf ar offerynnau llinynnol a’r piano ddydd Sul 6 Tachwedd.
Bydd Zoe Smith a Kevin Price yn canolbwyntio’n bennaf ar chwythbrennau a phres ddydd Sadwrn 5 Tachwedd.
Croesewir offerynnau eraill wrth gwrs a byddant yn cael eu hamserlennu ar y naill ddiwrnod neu’r llall.
Mae’r awyrgylch yn hamddenol ac anffurfiol. Ni fydd yr arweinwyr yn cynnig cyngor technegol (mae’n well gadael hynny i’ch athro offerynnol) ond yn hytrach yn eich annog i archwilio eich dehongliad o’r gerddoriaeth a datblygu eich sgiliau perfformio. Y nod yw cynyddu eich hyder wrth chwarae a pherfformio – boed hynny mewn cyngerdd, clyweliad neu arholiad. Mae’r dosbarth meistr yn rhywle i chi gael budd o gyngor amhrisiadwy cerddorion proffesiynol.
Dewch ag un darn o gerddoriaeth rydych yn gweithio arno ar hyn o bryd, heb fod yn hwy na phum munud o hyd. Gall hwn fod yn ddarn ar ei ben ei hun neu’n symudiad/rhan o symudiad o waith hirach. Byddai’n help mawr pe gallech ddod â chopi sbâr o’r gerddoriaeth i’r dosbarth meistr.
Mae Andrew Wilson Dickson a Zoe Smith ar gael ac yn hapus i gyfeilio ar ddiwrnod y dosbarth meistr neu, os yw’n well gennych, gallwch ddod â’ch pianydd eich hun.
Nid oes tâl am gymryd rhan. Mae llefydd yn gyfyngedig ac ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.
I gymryd rhan, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen ar y dudalen hon a naill ai ei e-bostio at Helen McNabb ar ymdyfed@gmail.com neu ei phostio i’r cyfeiriad a ddarperir. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Helen.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher 12 Hydref 2022.
I gymryd rhan yn ein dosbarthiadau meistr dylech fod:
- o dan 19 oed ar 1 Medi 2022
- mewn addysg llawn amser neu fod â chyfeiriad preswyl parhaol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro
- o safon gyfatebol i Radd 5 neu uwch
CYSTADLEUAETH CERDDOR IFANC DYFED
Dim ond cyfranogwyr Dosbarthiadau Meistr sy’n gymwys i wneud cais, ond nid oes rhaid i chi wneud hynny os nad ydych yn dymuno. Bydd rhagbrawf ddiwedd Ionawr neu ddechrau Chwefror 2023 pan fydd panel yn dewis y 5 i baratoi datganiad 15 munud ar gyfer perfformiad/cystadleuaeth gyhoeddus i ddewis Cerddor Ifanc Dyfed. Cynhelir y gystadleuaeth yn Neuadd y Dderwen, Rhosygilwen, Cilgerran ar ddydd Sadwrn 25 Mawrth 2023.