
BWRSARI CERDD RHOSYGILWEN
RHAGARWEINIAD
Mae bwrsari cerdd Menter Rhosygilwen yn cael ei rhoi yn flynyddol i gefnogi person ifanc talentog sy’n gadael ysgol i wireddu uchelgais o gael gyrfa gerddorol drwy astudio mewn coleg cerdd neu brifysgol. Mae’n agored felly i ddisgyblion blwyddyn 13, neu i gerddorion ifanc sy’n cymryd blwyddyn allan cyn mynd o goleg cerdd neu brifysgol.
Mae nifer o rwystrau ariannol yn wynebu cerddorion ifanc ar hyn o bryd. Mae addysg gerdd yn parhau i ddioddef o ddiffyg cyllid, ac fe all y gost gyfyngu’n ddifrifol ar opsiynau rhai myfyrwyr sydd am barhau gyda’u hastudiaethau cerdd.
Gosodir gwerth ar gerddoriaeth yma yng nghymunedau gwledig de-orllewin Cymru – ardal sydd wedi magu cyfoeth o dalentau ifanc cerddorol dros y blynyddoedd. Rydym wedi gweld y rhai sy’n cyrraedd colegau cerdd a phrifysgolion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus dros ardal ddaearyddol eang.
BETH YW GWERTH Y BWRSARI?
Bydd Menter Rhosygilwen yn cynnig bwrsari blynyddol o £3,000 i offerynnwr neu gyfansoddwr sy’n arddangos talent eithriadol. Rhoddir y bwrsari yn flynyddol dros gyfnod o ddwy flynedd (cyfanswm o £6,000). Fe delir hanner cyntaf y bwrsari cyn y flwyddyn academaidd, wedi i’r person ifanc dderbyn cadarnhad o le mewn sefydliad addysgol. Fe delir yr ail hanner wedi i’r sefydliad gadarnhau bod y myfyriwr yn mynd ymlaen i astudio am ail flwyddyn.
SUT MAE GWNEUD CAIS, A SUT FYDD DERBYNNYDD Y BWRSARI YN CAEL EI DDEWIS?
Mae Rhosygilwen wedi dirprwyo’r cyfrifoldeb o hyrwyddo’r bwrsari a dewis derbynnydd teilwng i elusen Cerddorion Ifanc Dyfed. Gofynnir i ymgeiswyr wneud cais drwy gyflwyno datganiad ysgrifenedig yn datgan y rhesymau am y cais, gan amlinelli hefyd sut fyddai’r bwrsari yn gwneud gwahaniaeth i’w huchelgais o ran astudio a gyrfa. Wedi hynny, disgwylir i bob ymgeisydd gymryd rhan yn un neu fwy o raglenni’r elusen. Bydd adborth gan y cerddorion proffesiynol sy’n arwain y rhaglenni hyn, ochr yn ochr ag asesiad o ddatganiad ysgrifenedig pob ymgeisydd, yn llywio’r penderfyniad terfynol o ran pwy fydd yn derbyn y bwrsari.
SUT A PHRYD GELLIR CYFLWYNO CEISIADAU?
Derbynnir ceisiadau erbyn Medi 30ain.
Dylai ymgeiswyr e-bostio datganiadau ysgrifenedig at Emyr Wynne Jones, Cadeirydd CID, ar llysynant@gmail.com . Gall y datganiad fod yn y Gymraeg neu’r Saesneg, a dylai gynnwys:
– Amlinelliad o lwyddiannau’r ymgeisydd hyd yn hyn.
– Uchelgais yr ymgeisydd o ran gyrfa gerddorol.
– Manylion y cwrs mae’r ymgeisydd am astudio.
– Y gwahaniaeth y byddai derbyn y bwrsari yn ei wneud i uchelgais yr ymgeisydd o ystyried yr amgylchiadau personol.