Bwrsari Cerdd Peter a Philippa Gould 

Beth yw pwrpas y bwrsari?

Dyfernir y bwrsari am 12 mis i hyrwyddo datblygiad cerddorion ifanc dawnus sydd â’r dyhead, yr ymrwymiad, y potensial a’r talent i ddilyn gyrfa mewn cerddoriaeth. Bydd y bwrsari yn ceisio helpu cerddorion ifanc a’u teuluoedd i oresgyn rhwystrau a allai fel arall eu hatal rhag cyflawni’r nod hwn. Ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis, gall unigolion ail-ymgeisio am gymorth pellach.

 

 

Sut gellir defnyddio’r cyllid?

Gall defnydd cymwys o’r bwrsari gynnwys:

– Cyllid tuag at gost hyfforddiant proffesiynol o ansawdd uchel, a theithio i’r sesiynau hynny ac yn ôl.

Cyllid tuag at gost mynychu dosbarthiadau meistr penodol neu weithgareddau/digwyddiadau arbennig a fydd yn gwella datblygiad cerddor ifanc yn sylweddol.

– Cyllid i helpu gyda phrynu offeryn cerdd gwell.

– Cyllid tuag at brynu deunyddiau ac adnoddau cerddorol eraill.

Pwy sy’n gymwys i dderbyn y bwrsari?

Mae’r bwrsari ar gael i offerynwyr a chyfansoddwyr ifanc sy’n 16 oed neu iau ac sydd â chyfeiriad cartref o fewn ffiniau siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro, neu sy’n cael eu haddysg o fewn y tair sir.

Sut mae gwneud cais am y bwrsari

Dylai’r rhai sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer y bwrsari gyflwyno llythyr cais ysgrifenedig i ymmdyfed@gmail.com  yn amlinellu:

–  gwahaniaeth y byddai’r bwrsari yn ei wneud o ystyried eu hamgylchiadau personol

– sut y byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio er budd y cerddor ifanc

 

Ochr yn ochr â hyn, dylai ymgeiswyr y bwrsari ymrwymo i gymryd rhan naill ai yn nosbarthiadau meistr mis  Tachwedd CID ar gyfer offerynwyr, neu ein rhaglen flynyddol i gyfansoddwyr ifanc. Bydd hyn yn caniatáu inni gael adborth gan y cerddorion proffesiynol sy’n arwain y gweithgareddau hyn

Sut fydd y bwrsari yn cael eu hasesu?

Bwrdd Ymddiriedolwyr CID fydd yn gyfrifol am yr asesiad gan ystyried y cais ysgrifenedig ochr yn ochr ag adborth gan y cerddorion proffesiynol a gyflogwn.

Sawl bwrsari a faint o arian a ddyfernir bob blwyddyn?

Bwrdd Ymddiriedolwyr CID fydd yn penderfynnu hyn. Efallai bydd ambell flwyddyn pan na ddyfernir bwrsari, ond bydd eraill pan ddyfernir sawl un. Yr hyn sy’n bwysig yw bod y bwrsari’n cael ei thargedu at y bobl ifanc mwyaf teilwng ac ar yr amser iawn yn eu datblygiad.

Sut mae hyn yn cysylltu â Bwrsari Cerdd Rhosygilwen, sydd hefyd yn cael ei hwyluso gan CID?

Mae gan y ddau fwrsari swyddogaeth wahanol ac maent yn ategu at ei gilydd. Mae Bwrsari Rhosygilwen yn darparu £3,000 y flwyddyn i gerddor ifanc am y ddwy flynedd gyntaf o astudio mewn prifysgol neu gonservatoire. Bydd Bwrsari Cerdd Peter a Philippa Gould wedi’i thargedu at gerddorion iau –  rhai allent fod yn dderbynwyr Bwrsari Rhosygilwen yn y dyfodol.

 

Derbynnir ceisiadau erbyn Medi 30ain.