Pwy ydym ni? Ni yw Cerddorion Ifanc Dyfed.

Sut ydym yn casglu gwybodaeth amdanoch? Rydym yn gofyn am wybodaeth ar ffurflenni pan fyddwch yn gwneud cais i fod yn rhan o’r cyfleoedd rydym yn eu cynnig.

Pa fath o wybodaeth rydym yn ei gasglu? Bydd y wybodaeth bersonol byddwn yn gofyn amdano yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, e-bost, rhifau ffôn, a dyddiad geni. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio lluniau ohonoch ar ein gwefan neu ar gyfryngau cymdeithasol os nad ydych wedi optio allan o hyn.

Sut ydym yn defnyddio’r wybodaeth? Efallai byddwn yn defnyddio’r wybodaeth: I roi gwybod i chi am weithgareddau a drefnir gan Gerddorion Ifanc Dyfed. I ofyn am sylwadau neu adborth. Rydym yn adolygu’r wybodaeth sydd gennym yn gyson, ac yn gofyn i chi wirio a chywiro’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Nid ydym yn cadw’r wybodaeth am fwy na sydd rhaid.

Pwy sydd â mynediad i’r wybodaeth? Ni fyddwn yn gwerthu, rhentu, neu rannu eich gwybodaeth gydag unrhyw drydydd parti er mwyn marchnata, os nad yw’n ofynnol i ni wneud hynny i gydymffurfio a’r gyfraith. Enghreifftiau o hyn yw rhoi gwybodaeth i gydymffurfio a gorchymyn llys, er mwyn osgoi trosedd, neu i orfodi ein hamodau defnydd, ac i warchod hawliau, eiddo a phreifatrwydd ein cefnogwyr. Er hyn, byddwn yn anelu i sicrhau bod eich hawl chi am breifatrwydd o hyd yn cael ei amddiffyn.

Eich dewisiadau ,diweddariadau, a mynediad i’ch gwybodaeth.
Mae gennych ddewis os ydych am dderbyn gwybodaeth gennym neu ddim. Ni fyddwn yn cysylltu â chi i farchnata drwy e-bost, ffôn neu neges testun os nad ydym wedi derbyn caniatâd ymlaen llaw. Gallwch ddiweddaru eich dewisiadau, cyfeiriad e-bost neu unrhyw wybodaeth arall drwy ddanfon e-bost at ein gweinyddwr. Byddwn yn dileu’r wybodaeth flaenorol yn rhannol neu’n llwyr yn unol â’ch cais chi. Mae cywirdeb eich gwybodaeth yn bwysig i ni. O bryd i’w gilydd efallai byddwn yn danfon y wybodaeth sydd gennym atoch gyda chais am ddiweddariad. Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth ar unrhyw adeg.

Diogelwch Mae systemau diogelwch yn eu lle i warchod eich gwybodaeth rhag cael eu colli, eu camddefnyddio neu newid. Rydym wedi cymryd camau i sicrhau bod y wybodaeth rydych yn danfon atom yn ddiogel. Pan fyddwn yn derbyn gwybodaeth gennych rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau ei ddiogelwch. Mae wedi ei ddiogelu gan gyfrinair. Os ydym yn derbyn gwybodaeth ar bapur, neu os bydd angen argraffu eich gwybodaeth, byddwn yn ei rhoi drwy garpiadur pan na fydd angen arnom bellach.

Cysylltiadau â gwefannau eraill Efallai bydd ein gwefan yn cynnwys cysylltiadau i wefannau sefydliadau eraill. Mae’r polisi preifatrwydd hwn ond yn berthnasol i Gerddorion Ifanc Dyfed. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am bolisïau ac arferion gwefannau eraill, hyd yn oed os ydych yn cael mynediad atynt drwy ein gwefan ni.

16oed neu o dan Rydym wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd plant 16 oed neu o dan. Os ydych yn 16 neu o dan, gofynnir i chi gael caniatâd y person sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch cyn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol gyda ni.

Lleoliad eich gwybodaeth Cedwir eich gwybodaeth yn y Deyrnas Unedig, ac nid yw’n cael ei drosglwyddo i unrhyw le arall tu allan i Brydain Fawr.

Adolygiad y polisi hwn Mae’r polisi hwn yn cael ei adolygu’n gyson; roedd yr adolygiad diweddaraf ym mis Gorffennaf 2018.