Cymryd Rhan

I gymryd rhan yn y dosbarthiadau meistr, rhaid i aelodau eich ensemble fod:

  • O dan 19 oed ar Fedi 1af 2020.
  • Yn cael eu haddysg llawn amser, neu fod a chyfeiriad parhaol o fewn ffiniau siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro.

Ein diffiniad o ensemble yw grŵp o dri neu mwy, heb arweinydd, gyda phob aelod o’r grŵp yn chwarae/canu rhan annibynnol.

Dewch ag un darn rydych yn ei weithio arno ar y pryd gyda chi – dim mwy na phum munud o hyd. Gall fod yn ddarn cyfan, neu’n symudiad neu ran o symudiad o waith hirach. Dewch a chopi sbâr gyda chi hefyd os yn bosibl.

I gymryd rhan, cwblhewch y ffurflen isod a’i ddychwelyd at ymmdyfed@gmail.com neu postiwch y ffurflen i’r cyfeiriad a nodir.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener Rhagfyr 13fed 2019

 

 

Ensembles Ifanc Dyfed

Dyma fenter gyffrous i offerynwyr ifanc sy’n chwarae neu canu fel aelod o ensemble.

 

Mae Cerddorion Ifanc Dyfed yn cynnig cyfle i ensembles ifanc elwa o ddosbarth meistr unigol yn Ionawr 2019. Cynhelir y dosbarthiadau meistr mewn ysgol neu ysgolion ledled siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro, a’r nod yw rhoi cyngor ac arweiniad ar y canlynol:

 

·    gwrando, edrych a rhyngweithio

·    dehongliad cerddorol

·    cydbwysedd wrth chwarae

·    brawddegu, chwarae glân, a deinameg

·    tiwnio a thonyddiaeth

·    datblygu sgiliau llwyfannu a thechneg perfformio

 

Bydd y dosbarthiadau meistr dan arweiniad Rhys Taylor. Mae’n gyn enillydd Cerddor Ifanc Dyfed, ac erbyn cydnabyddir ef fel un sy’n dangos rhagoriaeth fel perfformiwr, cyfarwyddwr a chyfansoddwr yn y byd clasurol a jazz. Mae hefyd yn unawdydd ar y clarinét.

 

Disgwylir i bob ensemble baratoi un darn sy’n para hyd am 5 munud.

Os ydych chi’n perfformio o sgôr, dylid darparu copi ar ddiwrnod y dosbarth meistr.

 

Diffiniad o Ensemble

Rydym yn diffinio ensemble fel grŵp o ddau* neu fwy o offerynwyr/cantorion sy’n perfformio heb arweinydd, gyda llinell pob aelod yn annibynnol.

*nid yw unawdydd gyda chyfeiliant yn cael ei ystyried yn ensemble.

 

Pwy all gymryd rhan?

Mae’r dosbarth meistr yn agored i ensembles ifanc sydd a phob aelod: 

·    o dan 19 oed ar Fedi 1af 2019

·    yn byw, neu’n derbyn addysg llawn amser, o fewn ffiniau siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro.

 

Gall yr ensemble berfformio mewn unrhyw arddull gerddorol e.e. clasurol, jazz, gwerin, blws, roc, pop, cerddoriaeth y byd.

 

I wneud cais am ddosbarth meistr, cwblhewch y ffurflen gais a’i e-bostio at  Helen McNabb ymmdyfed@gmail.com , neu danfonwch gopi yn y post i’r cyfeiriad a nodir. Os oes gennych gwestiwn, cysylltwch â Helen.

 

Y dyddiad cau yw Dydd Gwener Rhagfyr 13fed 2019.