Cyfansoddwr Ifanc Dyfed

Roedd cyngerdd y Cyfansoddwr Ifanc yn cynnwys gweithiau gan 15 o’r 70 o gyfansoddwyr ifanc a oedd wedi cyflwyno darnau. Perfformiwyd y darnau gan Driawd Llinynnol o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Mae hwn yn brosiect rydym yn ei redeg yn flynyddol rhwng Medi a Mawrth/Ebrill. Bob blwyddyn rydym yn penodi Ensemble Preswyl ac yn gwahodd pobl ifanc o dan 23 oed i ysgrifennu darn ar gyfer yr ensemble. Ein Cyfansoddwr Preswyl ar gyfer 2023-24 fydd Lynne Plowman a bydd yr Ensemble yn cynnwys piano, clarinét, feiolin a sielo o blith aelodau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (https://www.bbc.co.uk/bbcnow ). Rydym yn falch iawn o gael y bartneriaeth hon gyda’r BBC.

 

Gweithdy Agoriadol i Ysgolion

Bydd y gweithdy i ysgolion, pryd y bydd Lynne Plowman yn cyflwyno rhai posibiliadau cyfansoddi a’r ensemble yn cyflwyno eu hofferynnau, ar y dyddiadau canlynol

         Dydd Mercher Medi 27 yn Ysgol Uwchradd Aberaeron. 10.30-12.00

·       Dydd Iau Medi 28 yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd. 10.30-12.00

·       Dydd Gwener Medi 29 yn Neuadd y Gwendraeth Drefach (nid Ysgol Maes y Gwendraeth) 10.30-12.00

 Wedi’r gweithdy, bydd Lynne Plowman yn ymweld â phob ysgol/coleg sy’n cymryd rhan ddwywaith yn ystod Tymor yr Hydref i weithio gyda myfyrwyr a’u hathrawon – bydd yn ymweld unwaith cyn ac unwaith ar ôl hanner tymor. Yna yn Nhymor y Gwanwyn bydd sesiynau tiwtorial un-i-un gyda Lynne yn cael eu cynnal – gweler isod am fanylion. Bydd yr holl weithiau a gyflwynir yn cael eu ymarfer a’u recordio gan y BBC yng Nghaerdydd a’r cyfansoddwyr yn cymryd rhan ar-lein, a bydd yr holl recordiadau ar gael i’r cyfansoddwyr eu defnyddio at ddibenion preifat a chyflwyniadau arholiadau.. 

Sesiynau Tiwtorial Unigol

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyflwyno cyfansoddiad wneud cais am diwtorial unigol gyda Lynne i drafod a mireinio’u darn yn fanwl. Cynhelir y rhain rhwng Ionawr a Chwefror 2024. Os hoffech wneud cais am diwtorial lawrlwythwch y ffurflen gais isod a’i chyflwyno drwy’r post neu e-bostiwch i ymdyfed@gmail.com . Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am diwtorial yw Dydd Gwener 8 Rhagfyr 2023

 Cymhwysedd

Rydych yn gymwys i gyflwyno cyfansoddiad ar gyfer 2023-24 os:

  • Rydych o dan 23 oed ar 1 Medi 2023
  • Rydych mewn addysg amser llawn neu mae gennych gyfeiriad preswyl parhaol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro

 Cyflwyno Cyfansoddiad

Gellir cyflwyno cyfansoddiadau mewn nifer o ffyrdd a cheir cyngor am hyn ar dudalen Adnoddau’r wefan. Ein hoff fformat yw:

  • Ffeil Sibelius gyda sgôr lawn a rhannau unigol
  • PDF o’r ffeil gyda sgôr lawn a rhannau unigol
  • Copi caled gyda sgôr lawn a rhannau unigol. 

Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cyfansoddiadau yw Dydd  Gwener 8 Chwefror 2024