Enillydd Cerddor Ifanc 2023 yw’r delynores Cerys Angharad. Bydd yn perfformio yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar 30 Mai fel rhan o’i gwobr. Aeth yr ail wobr i Aldo Breedyk ar y piano, gyda Lefi Dafydd hefyd ar y piano yn drydydd. Y ddau arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd y pianydd Jonah Barker a’r trwmpedwr Dylan Savage

DOSBARTHIADAU MEISTR CERDDOR IFANC DYFED

Cynhelir dosbarthiadau meistr eleni ar Ddydd Sadwrn 4ydd a Dydd Sul 5ed o Dachwedd 2023 yn Rhosygilwen ger Cilgerran. Bydd sesiynau’r Sadwrn yn ffocysu ar offerynnau llinynnol a’r piano, a bydd y Sul yn ffocysu ar chwythbrennau a phres. Croesewir offerynnau eraill hefyd, a byddant yn cael eu hamserlenni ar un o’r ddau ddiwrnod.

 

Bydd awyrgylch y doisbarthiadau mesitr yn gyfeillgar ac anffurfiol. Ni fydd yr arweinyddion yn rhoi cyngor ar dechneg (eich athro offerynnol sy’n gyfrifol am hynny) ond byddant yn hytrach yn canolbwyntio ar eich dehongliad o’r gerddoriaeth a’ch sgiliau perfformio. Y nod yw codi eich hyder wrth berfformio – boed hynny mewn cyngerdd, clyweliad, neu mewn arholiad. Mae’n le i chi dderbyn cyngor gwerthfawr iawn gan gerddorion proffesiynol.

 

Dewch ag un darn rydych yn gweithio arno i’r dosbarth meistr – dim fwy na pum munud o hyd. Gall fod yn ddarn unigol, neu’n symudiad/rhan o symudiad allan o waith hirach. Bydd yn help os allwch ddod a chopi ychwanegol gyda chi i’r dosbarth meistr.

Darperir cyfeilyddion ar y dydd, ond gallwch ddod a chyfeilydd eich hun os dymunwch.

Mae’r cyfan yn rhad ac am ddim. Mae galw mawr am lefydd felly rhowch eich cais i mewn yn gynnar. Y cyntaf i’r felin …!

I wneud cais am ddosbarth meistr cwblhewch y ffurflen a’i ddychwelyd at Helen McNabb ar ymmdyfed@gmail.com neu drwy’r post i’r cyfeiriad a nodir. Os oes gennych gwestiwn, cysylltwch â Helen.

Y dyddiad cau am geisiadau yw Dydd Mercher Hydref 11eg 2023.

CYSTADLEUAETH CERDDOR IFANC DYFED

Rydym yn croesawu ceisiadau gan rhai a fynychodd ddosbarth meistr ac eraill hefyd. Cynhelir rhagbrofion ar ddiwedd Ionawr neu ddechrau Chwefror 2024 ac fe fydd y panel yn gwahodd 5 i baratoi rhaglen 15 munud ar gyfer y ffeinal i ddewis Cerddor Ifanc Dyfed.

Y dyddiad cau am geisiadau yw Dydd Gwener Rhagfyr 15 2023

Cynhelir y gystadleuaeth yn Neuadd y Dderwen, Rhosygilwen, Cilgerran ar Ddydd Sadwrn Ebrill 13eg 2024.

 

Yn ogystal â’r gwobrwyon a gynigir, bydd y buddugol yn cael cyfle i berfformio yng Ngŵyl Tŷ Ddewi a Gŵyl MusicFest Aberystwyth.