Uchafbwynt ein rhaglen o weithgareddau eleni fydd dau gyngerdd dathlu ar benwythnos Ebrill 13 ac 14 – y ddau yn Rhosygilwen.

Ar nos Sadwrn Ebrill 13 am 7, bydd pum offerynnwr ifanc yn cystadlu am wobr Cerddor Ifanc Dyfed 2024. Byddant yn perfformio datganiad 15-munud i gynulleidfa ac o flaen panel o feirniaid proffesiynol. Bydd y pump yn cael cyfleoedd perfformio pellach, ac fe fydd y buddugol yn rhoi datganiad yng Nghadeirlan Tŷ Ddewi ac yn Musicfest Aberystwyth.

Ar nos Sul Ebrill 14 am 6, bydd ein cyfansoddwr preswyl Lynne Plowman yn cyflwyno pedwarawd preswyl o offerynwyr Cerddorfa’r BBC yn perfformio detholiad o gyfansoddiadau gan ieuenctid ledled y tair sir fel rhan o’n rhaglen i gyfansoddwyr ifanc.

Mae’n addo bod yn benwythnos cyffrous – dewch i fwynhau!

Enillydd Cerddor Ifanc 2023 yw’r delynores Cerys Angharad. Bydd yn perfformio yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar 30 Mai fel rhan o’i gwobr. Aeth yr ail wobr i Aldo Breedyk ar y piano, gyda Lefi Dafydd hefyd ar y piano yn drydydd. Y ddau arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd y pianydd Jonah Barker a’r trwmpedwr Dylan Savage.

Roedd cyngerdd y Cyfansoddwr Ifanc yn cynnwys gweithiau gan 15 o’r 70 o gyfansoddwyr ifanc a oedd wedi cyflwyno darnau. Perfformiwyd y darnau gan Driawd Llinynnol o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

 

POLISI CYDRADDOLDEB